23 Rhag 2008
Mae Traffig Cymru, gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch traffig a theithio, yn cynghori modurwyr ar draws Cymru i gymryd rhai camau syml er mwyn i’w Nadolig fod yn rhydd o straen ar y ffyrdd.
Mae Traffig Cymru, a leolir yng Nghaerdydd ac yn Nghonwy, yn gyfrifol am fonitro a rheoli gwerth 300 cilomedr o draffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru trwy gyfrwng rhwydwaith o 250 o gamerâu CCTV, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
"Bydd ein tîm ymroddedig yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos trwy gydol y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd er mwyn sicrhau bod ein ffyrdd yn gweithredu mewn ffordd mor effeithiol ac effeithlon ag y bo modd", dywedodd rheolwr Traffig Cymru, Viv Collins.
"Os ydych yn bwriadu ymweld â pherthnasau neu deithio i’r sêls, a fyddech gystal â’n helpu ni i’ch helpu chi i osgoi tywydd gwael a thagfeydd traffig gyda’r camau syml hyn."
· Dylech neilltuo digon o amser i gwblhau’ch taith bob amser.
· Cyn cychwyn ar eich taith, ffoniwch llinell wybodaeth Traffig Cymru ar 0845 602 602 0. Mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd ac mae modd i chi siarad gydag un o’n gweithredwyr er mwyn cael y cyngor diweddaraf am y sefyllfa ar y ffyrdd.
· Gwnewch yn siwr eich bod yn gwrando ar yr adroddiadau traffig ar y radio er mwyn cael syniad o gyflwr y ffyrdd a gwybodaeth am unrhyw ddigwyddiadau.
· Trowch at www.traffic-wales.com i weld delweddau o’n rhwydwaith o gamerâu a gwybodaeth am y sefyllfa ar y ffyrdd ar y funud honno. Yn ogystal, gallwch ddewis manteisio ar wasanaeth rhybuddion traffig personoledig a anfonir atoch yn rhad ac am ddim mewn negeseuon e-bost neu negeseuon testun.
· Gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi sylw i arwyddion amrywiol Traffig Cymru ar rwydwaith y ffyrdd, oherwydd gall y rhain dynnu eich sylw at unrhyw ddamweiniau, ffyrdd sydd ar gau a gwyriadau.
· Dylech ystyried paratoi pecyn gaeaf ar gyfer eich taith. Rydym yn awgrymu y dylai pecyn o’r fath gynnwys ffôn symudol i’w ddefnyddio mewn argyfwng (gan sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon i wneud hynny), dillad cynnes, rhywfaint o fwyd a diod a rhaw hyd yn oed os yw eira trwm yn debygol.
· Cofiwch y gall iâ ar y ffyrdd gynyddu’r pellteroedd stopio gymaint ag 85%, felly gwnewch yn siwr eich bod yn gadael digon o le rhwng eich cerbyd chi a’r cerbyd o’ch blaen, gan osgoi symudiadau sydyn.
E-bostio ffrind