Mae Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru (ACGC) yn gweithredu ar sail partneriaeth rhwng chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, gyda Cyngor Gwynedd yn Awdurdod Arweiniol.
Mae ACGC ar ran y Cynulliad yn gyfrifol am cynnal a chadw a gwella dros 300 milltir o gefnffyrdd yng Ngogledd Cymru, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am oddeutu 1,150 o adeileddau cefnffyrdd, gan gynnwys nifer o dwneli ffordd sylweddol ar yr A55 ar arfordir y gogledd.
Mae’r Asiantaeth yn ymestyn dros holl ardaloedd gweinyddol yn Cynghorau Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn (gweler y map isod). Fodd bynnag, mae gan ACGC rôl wahanol ar Ynys Môn, fel y nodir isod.
Mae trefniadau arbennig parthed yr A55 o Llandygai (Bangor) i Caergybi ar draws Ynys Môn (gan gynnwys Pont Britannia), Pont Menai ac y linc cysylltiol rhwng y ddwy bont. UK Highways (A55) Cyf sy’n gyfrifol am reoli a chynnal a chadw y rhan yma o’r rhwydwaith cefnffyrdd Gogledd Cymru, gyda’r ACGC yn cyflawni’r rôl monitro ar ran y Cynulliad.
Am wybodaeth pellach ac unrhyw ymholiadau cefnffyrdd cliciwch yma i cael at ein wefan.
