Sut ydw i’n llywio o amgylch y Map?
Cliciwch i chwythu mewn i’r Map Traffig ac edrych arno drwy glicio ar y saethau border coch. Mae yna hefyd map lleoli cyfleus o dan y tab
. Wedi chwyddo mewn defnyddiwch hwn i symud o amgylch y map yn hawdd. Er mwyn chwyddo allan, defnyddiwch y panel rheoli wedi’i leoli ar ochr dde'r map. Mae’r panel yma hefyd yn cael ei ddefnyddio i chwyddo mewn neu newid rhwng y tri lefel chwyddo.
Beth allai gweld ar y Map?
Gallwch weld delweddau Teledu Cylch cyfyng ar ffyrdd yr M4, A55, M48, A48M, A470, A4232, A4042 a’r A449. Gallwch hefyd weld Gwaith Ffordd Gyfredol, Digwyddiadau a Gwybodaeth.
Drwy glicio ar unrhyw eicon yn y Map Traffig gallwch dderbyn ragor o wybodaeth ynglyn â’r eitem. Dangosir y wybodaeth ar yr ochr llaw chwith o dan y tab
.
Gallwch glicio ar yr eitem ar y rhestr er mwyn cael ragor o wybodaeth a drwy glicio’r cysylltiad <dangos digwyddiad ar y map>, byddwch yn chwyddo i’r ardal ble mae’r digwyddiad, gwaith ffordd neu ddamwain yn awtomataidd.
Dangosir lefelau tagfeydd ar hyd rhannau dewisol o’r traffordd M4 yn gwyrdd, melyn a coch yn dibynnu ar llif y traffig.
Beth yw Rhybuddion?
Gall rhybuddion cynnwys gwybodaeth bwysig ynglyn â’r damweiniau mawr, gwaith ffordd a digwyddiadau er enghraifft cyngherddau, rygbi a gemau pêl droed.
Gallwch gofrestru a mewngofnodi i’w lwytho er mwyn derbyn rhybuddion o ddigwyddiadau drwy E-bost neu SMS.
Pam na allwn weld camerâu ar y Tab Digwyddiadau cynlluniedig?
Mae Digwyddiadau Cynlluniedig yn digwydd yn y dyfodol. Yn anffodus ni allwn ddod o hyd i ddelweddau camera mor bell ymlaen a hynny.
Mae Digwyddiadau Cynlluniedig yn cynnwys digwyddiadau er enghraifft cyngherddau, gemau pêl droed a gwaith ffordd.
Dangosir Digwyddiadau Cynlluniedig Cyfredol ar y Map. Drwy glicio ar rain gallwch weld ragor o wybodaeth yn cael ei ddangos ar y tab gwybodaeth ar yr ochr llaw dde.
Beth yw Rhybuddion Amser Teithio?
Amseroedd teithio amcangyfrifedig yw Amseroedd teithio rhwng dwy gyffordd ar draffordd yr M4.
Ychwanegwch amcangyfrifon amser teithio drwy ddewis dwy gyffordd ar draffordd yr M4 a chlicio’r botwm Ychwanegu.
Beth yw Cyflenwad Newyddion RSS?
Teulu o gyflenwad fformatau gwe a ddefnyddiwyd i gyhoeddi tudalennau a diweddarwyd yn aml, er enghraifft blogiau neu gyflenwad newyddion. Mae defnyddwyr cynnwys RSS yn defnyddio porwyr arbennig o’r enw aggregwr i edrych am gynnwys newydd mewn dwsinau neu hyd yn oed cannoedd o gyflenwadau gwe.
Am ragor o wybodaeth cyfeiriwch at ganllaw Cyflenwad newyddion RSS y BBC
Profion Hygyrchedd a Chyfieithu Cymraeg
Mae gwefan Traffig Cymru ar hyn o bryd yn mynd trwy Brofion Hygyrchedd er mwyn cwrdd â chanllawiau manwl i ddefnyddwyr. Rydym hefyd yn y broses o gyfieithu testun i’r rheini sydd yn defnyddio adran Cymraeg y wefan.
